Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
CELG(4)-28-14 Papur 2a
Cam Gweithredu’r Gymraeg mewn Addysg
2014-15 |
2015-16 |
2015-16 |
2015-16 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2014 |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol Rhagfyr 2013 |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
15,462 |
14,462 |
4,137 |
18,599 |
1. Mae Cam Gweithredu’r Gymraeg mewn Addysg yn cynyddu £4m o’i gymharu â’r cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2015-16, ond mae hyn yn bennaf oherwydd dau drosglwyddiad rheolaidd;
· £9.867m o’r Cam Gweithredu Addysg Ôl-16 i gyllido Cymraeg i Oedolion er mwyn lliflinio prosesau ar gyfer y sector;
· £5.13m o’r hyn sy’n weddill o Grant y Gymraeg mewn Addysg i’r Cam Gweithredu Safonau Addysg, i greu’r Grant Gwella Addysg newydd i ysgolion.
2. Felly bu gostyngiad ar y cyfan o £0.6m yng nghyllidebau’r Gymraeg mewn Addysg, sy’n deillio’n bennaf o’r gostyngiad o £0.5m mewn cyllid ar gyfer Grant y Gymraeg mewn Addysg cyn ei drosglwyddo i’r Cam Gweithredu Safonau Addysg. Ceir gostyngiadau minimol mewn cyllidebau comisiynu adnoddau, cynllunio ac ymchwil, cyfathrebu a marchnata o fewn y Cam Gweithredu, y maent i gyd yn cyfrannu tuag at ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflawni’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ac i geisio cynyddu nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ein cyfundrefn addysg.
Addysg Cyfrwng Cymraeg
3. Mae Cam Gweithredu’r Gymraeg mewn Addysg sy’n gyfanswm o £18.6m yn 2015-16 yn darparu cymorth i barhau i weithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a bydd cyllidebau’n cael eu blaenoriaethu i feysydd lle gellir cyflawni’r budd mwyaf.
4. Mae cyllidebau eraill o fewn y portffolio Addysg a Sgiliau sy’n cefnogi’r broses o weithredu’r Strategaeth yn cynnwys cyllid i’r canlynol:
· Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y llinell wariant Er Mwyn Ein Dyfodol yn y Cam Gweithredu Addysg Uwch, gyda dyraniad dangosol o £8.6m ar gyfer 2015-16;
· Darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith Cyfrwng Cymraeg o fewn y llinell wariant Dysgu Seiliedig ar Waith yn y Cam Gweithredu Addysg Ôl-16;
· Cam wrth Gam, rhaglen hyfforddi i ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen, gyda chyllid o £1.7m wedi’i ddyrannu o linell wariant y Cyfnod Sylfaen o fewn Cam Gweithredu’r Cwricwlwm yn 2015-16.
5. Bydd y broses o weithredu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn dal i gael ei chefnogi trwy drosglwyddo cyllid sy’n gyfanswm o £5.13m ar gyfer Grant y Gymraeg mewn Addysg i mewn i’r Grant Gwella Ysgolion newydd i ysgolion yn 2015-16.